SL(5)98 – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio

Cefndir a Phwrpas

Cyhoeddwyd y canllawiau statudol hyn gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Canllawiau i awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rhain ynghylch defnyddio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol.

Gweithdrefn

Dim, ond mae'n rhaid gosod y canllawiau gerbron y Cynulliad.

Craffu Technegol

Nid yw'r canllawiau yn offeryn statudol felly nid yw'r Pwyllgor yn adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Mae'r Pwyllgor wedi trafod y canllawiau ac adrodd arnynt o dan y canlynol:

-     Rheol Sefydlog 21.7(i): fel is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad;

-     Rheol Sefydlog 21.7(v): fel mater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru neu'n ymwneud â hynny.

Craffu ar rinweddau

Mae teitl y canllawiau'n datgan (ychwanegwyd pwyslais):

"Canllawiau Statudol ar sut y dylai Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a Chyfrannu at eu Llunio".

Ymddengys o'r teitl hwn bod y canllawiau'n dweud wrth y cyrff cyhoeddus hynny yr hyn y dylent fod yn ei wneud o ran: (1) defnyddio cofnodion amgylchedd hanesyddol, a (2) cyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol.

 

Fodd bynnag, mae'r Datganiad o Ddiben yn y canllawiau'n nodi bod y canllawiau'n esbonio'r canlynol: (1) sut y "gall" cyrff cyhoeddus gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol, a (2) sut y "dylai" cyrff cyhoeddus ddefnyddio cofnodion amgylchedd hanesyddol.

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at anghysondeb rhwng: (1) y defnydd o "dylai" yn nheitl y canllawiau, a (2) y defnydd o "dylai" a "gall" yn y Datganiad o Ddiben.

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod rhannau eraill o'r canllawiau'n cyfeirio at bethau y "dylai" cyrff cyhoeddus eu gwneud (er bod pennawd y canllawiau'n cyfeirio at yr hyn a "ddylai" gael ei wneud yn unig).

Ar ben hyn, nid yw'r canllawiau'n rhoi unrhyw gyfarwyddyd i gyrff cyhoeddus ynghylch ystyr "gall", "dylai" a "rhaid". Yn hyn o beth, mae'r Pwyllgor yn nodi'r dull gweithredu defnyddiol a fabwysiadwyd yng Nghod Rheoli Materion Ariannol drafft CCAUC (a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Mawrth 2017) a oedd yn egluro ystyr "rhaid" a "dylai" ac yn egluro'r canlyniadau o fethu â chydymffurfio â gofynion y cod hwnnw:

 

4. Where HEFCW uses the term ‘must’, it means it is a specific legal requirement or requirement under this Code. Institutions must comply with these requirements.

 

5. HEFCW uses ‘should’ for items it regards as minimum good practice, but for which there is no specific legislation or for which HEFCW is not setting a requirement under this Code; however, governing bodies must take such guidance into account. HEFCW will consider the extent to which an institution has adopted the ‘should’ provisions (or alternative, equally robust arrangements) in the Institutional Risk Review - our annual assessment of risk.

 

6. A summary of ‘must’ and ‘should’ provisions is provided at Annex C.

 

7. Where an institution fails, or is likely to fail, to comply with a requirement imposed by this Code, HEFCW may instigate the processes within its Statement of Intervention.

 

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Pwyllgor yn nodi y gellid drafftio’r canllawiau mewn ffordd fwy eglur i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall yr hyn y gallant ei wneud, yr hyn y dylent ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud, a’r canlyniadau o beidio â gwneud unrhyw un o’r pethau hynny.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

19 Ebrill 2017